Static Box

Sywel-Nyw-sengl-8.jpg

Mae Lwcus T yn falch o gyflwyno ‘Static Box’ yr wythfed sengl o brosiect senglau misol Sywel Nyw yn 2021.

Y gwestai ar gyfer mis Awst ydi’r band Indi o Ogledd Gorllewin Cymru, Gwilym. Mae Gwilym yn un o fandiau newydd mwyaf poblogaidd Cymru ac yn adnabyddus am eu alawon a’i melodiau cofiadwy a chynhyrfus. Mae ‘Static Box’ wedi’i ysgrifennu ar y cyd rhwng Lewys a’r band a mae cynnwys y gân yn dwyn cymhariaeth rhwng opera sebon a bywyd go iawn, yn cyfeirio at bobl sy’n gweld y byd drwy eu llygaid sgwar.

Dywedodd Ifan: “Ma’n fraint i fod ymysg y garfan yma o artistiaid sy’n rhan o’r gyfrol, ond y fraint fwya’ oedd cael dyfeisio’r gân hefo Lewys ac addasu ein ffor ni o sgwennu i’w weledigaeth greadigol o.”

Er cymaint ma’ Zoom yn codi cyfog erbyn hyn, oedd y sesiyna’ yma’n aur, a mae’r gân yn un fydda ni’n cario hefo ni am amser hir!”

Bydd ‘Static Box’ allan ar Ddydd Gwener 27 o Awst.

Mwy o wybodaeth:

Instagram: @SywelNyw

Previous
Previous

Static Box (eng)

Next
Next

Y Meddwl Lliwgar Yma (eng)