Rhwng Dau

rhwng dau jpeg.jpg

Mae Lwcus T yn falch o gyflwyno Rhwng Dau, yr ail sengl o brosiect uchelgeisiol Sywel Nyw ar gyfer 2021.

Pob mis o’r flwyddyn fe fydd yn rhyddau sengl gydag artist gwahanol. Ym mis Ionawr rhyddhawyd Crio Tu Mewn gyda Mark Roberts a’r tro yma Casi Wyn sy’n cyd-weithio. 

Mae Casi yn un o gyfansoddwyr mwyaf mentrus Cymru ac mae ei cherddoriaeth wedi ei chwarae ar orsafoedd radio ar draws y byd. Yn ddiweddar mae wedi rhyddhau cyfres o senglau gwych dan yr enw Casi and the Blind Harpist. Mae treftadaeth Gymreig a thirwedd ei hardal enedigol yn themâu cyson i’w gwaith.

Mae Lewys a Casi hefyd yn frawd a chwaer, ac wedi mwynhau’r cyfle i ryddhau cerddoriaeth ar y cyd am y tro cyntaf. Meddai Lewys:

“Dyma oedd y tro cyntaf i ni eistedd lawr i ysgrifennu cân hefo’n gilydd. Roedd hi’n broses symlach na o’n i wedi disgwyl; cyd-dynnu yn hytrach na ffraeo!"

Wedi ei recordio yn ystod y cyfnod clo, mae geiriau didwyll Rhwng Dau wedi eu gosod i guriadau a melodïau bachog sy'n nodweddiadol o waith y ddau.

Yr artist Ellie Yvonne Owen o Fangor sy’n gyfrifol am y gwaith celf. Cysodwyd gan Celt Iwan.

Bydd Rhwng Dau yn drac yr wythnos ar BBC Radio Cymru ar 21 Chwefror a’n cael ei rhyddhau yn ddigidol ar 26 Chwefror. 

Dilynwch y daith wrth i Sywel Nyw ryddhau 12 sengl mewn blwyddyn:
• Instagram // Twitter: @sywelnyw

 
Previous
Previous

Rhwng Dau (eng)

Next
Next

Crio Tu Mewn (en)