Dyfroedd Melys
Mae Lwcus T yn falch o gyflwyno Dyfroedd Melys, y drydedd sengl o brosiect uchelgeisiol ar gyfer 2021.
Pob mis o’r flwyddyn bydd Sywel Nyw yn rhyddhau sengl newydd ar y cyd gydag artist gwahanol.
Gwenno Morgan yw’r artist gwadd ar gyfer mis Mawrth. Yn wreiddiol o Fangor, mae Gwenno bellach yn byw yn Leeds ac yn prysur greu enw i’w hun gan blethu elfennau o gerddoriaeth jazz, clasurol ac eletronica yn grefftus.
Dywed Gwenno am Dyfroedd Melys:
“Ar ôl cyfnod mor hir o gyfyngiadau, ro’n i ishe sgwennu miwsig fase’n gneud rhywun i ddawnsio!
Mi na’th y profiad o gydweithio hefo Lewys fy sbarduno i chwilio am syniadau newydd. Y cydweithio yna aeth â’r gerddoriaeth i rywle na fase fo wedi mynd pe byswn i jest wedi sgwennu rhywbeth ar ben fy hun.”
Ar Dyfroedd Melys mae arddull jazz teimladwy Gwenno wedi ei blethu’n fedrus gyda geiriau a melodïau Sywel Nyw.
Cynhyrchwyd fideo ar gyfer y trac gan Anna Huws, gyda’r ffilmio a golygu gan Gwilym Huws.
Gellir gwrando ar holl ganeuon y prosiect uchelgeisiol hyd yma ar y llwyfannau ffrydio cerddoriaeth arferol, neu trwy fynd i lwcust.com.
Bydd Dyfroedd Melys yn cael ei ryddhau ddydd Gwener 26 Mawrth.
Mwy o wybodaeth:
Instagram: @SywelNyw