Y Meddwl Lliwgar Yma
Mae Lwcus T yn falch o gyflwyno ‘Y Meddwl Lliwgar Yma’ y seithfed sengl o brosiect senglau misol Sywel Nyw yn 2021.
Y gwestai ar gyfer mis Gorffenaf ydi’r cerddor a’r artist, Steffan Dafydd. Mae Steff yn brif leisydd ar y band roc trwm, Breichiau Hir, sy’n un o bileri y sin gerddorol Gymraeg ers degawd bellach. Mae arddull Steff yn adnabyddus o fyddarol a’i eiriau yn freuddwydiol a hurt.
Dywedodd Steff: “Trio creu landscape hazy o bethe odd yn cysylltu’n llac iawn yn meddwl fi o ni, yn mynd am dro yn is-ymwybod fi a gadel i beth bynnag odd yn dod i pen fi fynd lawr ar bapur. O ni moyn creu teimlad o desperately trio cysylltu gyda pobl erill a’r byd a wedyn cymysgu hwn gyda llif meddwl ynysig unigolyn. O ni’n hoffi’r contrast yma. Nes i dim ond sylwi misoedd ar ol recordio bod y collaboration yma yn drosiad perffaith am hwn - gyda’r geiriau a’r gerddoriaeth yn cael eu creu ar wahan gan ddau unigolyn gwahanol.”
Bydd ‘Y Meddwl Lliwgar Yma’ allan ar Ddydd Gwener 30 o Orffenaf.
Mwy o wybodaeth:
Instagram: @SywelNyw