Pen Yn Y Gofod
Mae Lwcus T yn falch o gyflwyno Pen Yn Y Gofod y bedwaredd sengl o brosiect uchelgeisiol ar gyfer 2021.
Pob mis o’r flwyddyn mae Sywel Nyw yn rhyddhau sengl newydd ar y cyd gydag artist gwahanol. Y gwestai ar gyfer mis Ebrill yw basydd a un o sefydlwyr y band Indie Punk, Adwaith, sef Gwenllian Anthony.
Dywedodd Gwenllian:
“Mae'r gân yma yn adlewyrchu meddyliau cyfnod clo. Y meddyliau positif a' r negatif.”
“Mae'n dangos y daith o'r teimlad llethol o ddiwerth a phryder, i sylweddoli bod angen neud y gorau o sefyllfa wael.”
Mae llais amrwd Gwenllian ynghyd a’r naws electroneg yn plethu’n hyfryd o dan swn nodweddiadol prosiect Sywel Nyw.
Gellir gwrando ar holl ganeuon y prosiect uchelgeisiol hyd yma ar y llwyfannau ffrydio cerddoriaeth arferol, neu trwy fynd i lwcust.com.
Bydd ‘Pen yn y Gofod’ allan ddydd Gwener 30 Ebrill.
Yn ychwannegol, mae Sywel Nyw a Gwenllian yn rhyddhau STEMS y trac, ac mae gwahoddiad agored i unrhyw un wneud ail-gymysgiad o’r sengl. Dyma linc i’r STEMS.
Mwy o wybodaeth:
Instagram: @SywelNyw