Crio Tu Mewn
Mae Lwcus T yn falch o gyflwyno Crio Tu Mewn, y sengl gyntaf o brosiect uchelgeisiol gan Sywel Nyw.
Prosiect unigol y cerddor a’r cynhyrchydd Lewys Wyn, yw Sywel Nyw. Drwy gydol 2021, fe fydd yn cydweithio ac yn cynhyrchu traciau gwreiddiol gydag deuddeg artist gwahanol, o bob rhan o Gymru, er mwyn rhyddhau sengl newydd pob mis.
Roedd 2020 yn flwyddyn i'w anghofio, yn flwyddyn o ymbellhau cymdeithasol. Er fod y caneuon wedi'u cyfansoddi a'u cynhyrchu o bell, dyma swn anthemig ar gyfer cyfnod o ailgyfarfod ac ailgysylltu.
Meddai Lewys: "Mae gan bawb dwi wedi gweithio hefo nhw ar y prosiect yma agwedd eu hunain tuag at gerddoriaeth. Drwy gyfuno hyn hefo fy sain i dwi'n gobeithio y gallwn greu darn o waith arbennig a hynod o ddiddorol. Mae gan bob un o'r cyfansoddwyr berthynas unigryw hefo diwylliant Cymreig a ffordd unigryw o fynegi ei hunain."
Cafodd Crio Tu Mewn, y sengl gyntaf yn y gyfres, ei chyfansoddi gyda Mark Roberts, un o gyfansoddwyr amlycaf ei gyfnod ac un fu'n ddylanwad mawr ar Lewys o oedran cynnar.
Fel rhan o Y Cyrff, Catatonia, Y Ffyrc, The Earth neu'n ddiweddar dan enw Mr, mae Mark yn gyfrifol am gyfoeth o glasuron cyfoes. Yn Crio Tu Mewn cawn stori fer am freuddwyd annisgwyl.
Dywedai Mark: "Pan glywais y synths a'r periant dryms yn chwarae'r patrymau breuddwydiol oedd Lewys wedi ei recordio, roeddwn yn gwybod beth oeddwn eisiau ei wneud.
Roeddwn yn teimlo fod y cordiau yn swnio'n nostalgic, ond mewn ffordd eithaf mecanyddol. Felly penderfynais ysgrifennu am rywbeth dynol: rhamant cariad a cholled."
Ellie Yvonne Owen, artist ifanc o Fangor, sy'n gyfrifol am y gwaith celf a Celt Iwan am y cysodi.
Bydd Crio Tu Mewn yn cael ei rhyddhau yn ddigidol ar 29 Ionawr ynghyd a fideo arbennig.
Dilynwch y daith:
• Instagram // Twitter: @sywelnyw