Amser Parti
Mae Lwcus T yn cyflwyno ‘Amser Parti’ yr unfed sengl ar ddeg o brosiect senglau misol Sywel Nyw yn 2021.
Gwestai mis Tachwedd ydi’r gantores, perfformwraig a’r diva cyffredinol, Dionne Bennett.
Mae gan Dionne arddull hynod unigryw, a’i pwer lleisiol yn nodweddiadol iawn. Mae’r gantores wedi canu a perfformio gyda artistiaid rhyngwladol gan gynnwys Maceo Parker, The Peth a The Earth.
Mae Dionne wedi bod yn brysur yn dysgu Cymraaeg dros y blynydoedd diwethaf, a mae ei chyfraniad i'r gan yma yn brawf anhygoel o'i thalent amrwd.
Dywedai Dionne “Mae’r gan am rhyddid post pandemic, ymdeimlad o egni a’r awydd i fyw!”
Fel bonws anisgwyl o fendigedig, mae Kliph Scurlock yn darparu'r beats cyffroes sydd i glywed ar y track, a’r gantores Casi Wyn yn cyfranu lleisiau ychwanegol!
Bydd ‘Amser Parti’ allan Dydd Gwener 26 o Dachwedd.