Deuddeg

Deuddeg mis, deuddeg sengl, deuddeg artist. Dyma gasgliad o ganeuon pop amgen a melys, a phob un o’r traciau yn ganeuon wedi eu hysgrifennu ar y cyd rhwng Sywel Nyw ac artist arall o Gymru. O arloeswyr pop megis Mark Roberts ac Endaf Emlyn i artistiaid newydd ar flaen y gad gerddorol yng Nghymru megis Gwenno Morgan a Lauren Connelly. Mae Deuddeg yn gasgliad eclectig o senglau, a phan yn dod at ei gilydd yn creu albwm grefftus, sy’n crisialu 2021 i Sywel Nyw. O guriadau dawns ffyrnig Amser Parti gyda Dionne Bennett i synau melancolig a hynaws, Bonsai gyda Glyn Rhys-James. O ganeuon mwy breuddwydiol megis Rhwng Dau gyda Casi Wyn i eiriau gonest ac amrwd Lauren Connelly yn 10/10.

Sywel Nyw ydi’r cerddor Lewys Wyn. Yn ôl Lewys, roedd creu caneuon yn y dull yma yn fodd o gyfansoddi a gweithio tu allan i fformiwlâu “undonog” traddodiadol, tra ar yr un pryd yn ei alluogi cyd-weithio ag artistiaid a cherddorion sydd ar ochr arall y sbectrwm cerddorol iddo ef. Mae pob un yn artistiaid sy’n llwyddo i gyflwyno’u dull unigryw eu hunain o ysgrifennu caneuon, a phob un â'i berthynas arbennig â diwylliant Cymru a ffordd unigryw o fynegi eu hunain trwy'r iaith.

Mae Lewys yn diweddu’r prosiect ar ei ben ei hun. Mae ’Machlud’ yn ffarwelio a’r flwyddyn ac ar y prosiect, gan ddiolch i’r holl gyfranwyr sydd wedi bod mor barod i weithio gydag o yn 2021.

Mae ‘Deuddeg’ allan ar bob platform ar y 21 o Ionawr, a’r sengl olaf, ‘Machlud’ ar gael i’w ffrydio ar y 7fed o Ionawr.

Cadwch lygad allan am nwyddau arbennig 👀

Previous
Previous

Deuddeg (eng)

Next
Next

Amser Parti (eng)