public.jpeg

Mae Yr Ods a Llwyd Owen yn falch o gyflwyno Iaith y Nefoedd; cywaith cysyniadol, aml gyfrwng newydd.

Mae nofel fer Llwyd Owen yn ail-ddehongli'r ymadrodd cyfarwydd, a’i osod mewn stori epig am Gymru ddystopaidd sy’n pydru â chasineb. Mewn dyfodol diobaith, caiff rhyddid a syniadau eu rheoli hyd yr eithaf.

Cafodd trydydd albwm Yr Ods ei ysbrydoli gan y nofel fer. Er bod y sain yn fwy tywyll na gwaith blaenorol y band, mae’r melodïau pop bachog yno o hyd.

Gwaith celf gan Tom Winfield. Lluniau gan Carys Huws .

Cafodd Iaith y Nefoedd ei ryddhau ar 22 Tachwedd 2019 gan label Lwcus T a gwasg Y Lolfa. Cefnogwyd Iaith y Nefoedd gan Help Musicians UK ac Eos.


Yr Ods and Llwyd Owen are proud to present Iaith y Nefoedd; a conceptual, multi-medium release.

Llwyd Owen’s short novel re-interprets a familiar Welsh adage within an epic dystopian Wales - a Wales that’s rotting with hatred. In an uncertain future, freedom of thought and speech is controlled to the very end.

Yr Ods’ third album is inspired by the short novel. The pop melodies are still present, though the sound is darker than their previous works.

Artwork by Tom Winfield. Photos by Carys Huws .

Iaith y Nefoedd was released on 22 November 2019 by Lwcus T and Y Lolfa. Iaith y Nefoedd is supported by Help Musicians UK and Eos.